Salmau 88
Beibl William Morgan
Salm neu Gân meibion Cora, i’r Pencerdd ar Mahalath Leannoth, Maschil Heman yr Esrahiad.
88 O Arglwydd Dduw fy iachawdwriaeth, gwaeddais o’th flaen ddydd a nos. 2 Deued fy ngweddi ger dy fron: gostwng dy glust at fy llefain. 3 Canys fy enaid a lanwyd o flinderau; a’m heinioes a nesâ i’r beddrod. 4 Cyfrifwyd fi gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll: ydwyf fel gŵr heb nerth. 5 Yn rhydd ymysg y meirw, fel rhai wedi eu lladd, yn gorwedd mewn bedd, y rhai ni chofi mwy; a hwy a dorrwyd oddi wrth dy law. 6 Gosodaist fi yn y pwll isaf, mewn tywyllwch, yn y dyfnderau. 7 Y mae dy ddigofaint yn pwyso arnaf: ac â’th holl donnau y’m cystuddiaist. Sela. 8 Pellheaist fy nghydnabod oddi wrthyf; gwnaethost fi yn ffieidd‐dra iddynt: gwarchaewyd fi, fel nad awn allan. 9 Fy llygad a ofidiodd gan fy nghystudd: llefais arnat Arglwydd, beunydd; estynnais fy nwylo atat. 10 Ai i’r meirw y gwnei ryfeddod? a gyfyd y meirw a’th foliannu di? Sela. 11 A draethir dy drugaredd mewn bedd? a’th wirionedd yn nistryw? 12 A adwaenir dy ryfeddod yn y tywyllwch? a’th gyfiawnder yn nhir angof? 13 Ond myfi a lefais arnat, Arglwydd; yn fore yr achub fy ngweddi dy flaen. 14 Paham, Arglwydd, y gwrthodi fy enaid? y cuddi dy wyneb oddi wrthyf? 15 Truan ydwyf fi, ac ar drancedigaeth o’m hieuenctid: dygais dy ofn, ac yr ydwyf yn petruso. 16 Dy soriant a aeth drosof; dy ddychrynedigaethau a’m torrodd ymaith. 17 Fel dwfr y’m cylchynasant beunydd, ac y’m cydamgylchasant. 18 Câr a chyfaill a yrraist ymhell oddi wrthyf, a’m cydnabod i dywyllwch.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.